Nod ac amcan Cwlwm Busnes Caerdydd a’r Cylch, sef cymdeithas o bobl busnes Caerdydd a’r cyffiniau, yw codi proffil y Gymraeg ym myd busnes yn y Brifddinas a De-Ddwyrain Cymru a rhoi cyfle i Gymry Cymraeg sydd mewn busnes o bob math i gyfarfod ac i drafod materion yn ymwneud â busnes trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb ym myd busnes i ymuno â Chwlwm Busnes Caerdydd a’r Cylch. Croesewir aelodau unigol ac y mae telerau arbennig ar gyfer aelodaeth gorfforaethol i gwmniau. Yn arferol mae Cwlwm Busnes yn cyfarfod yn chwarterol yn gynnar min nos.
Mae Pwyllgor Llywio yn gyfrifol am weithgareddau Cwlwm Busnes a’r aelodau yw:
David Boobier
(Cadeirydd)
Dafydd Hampson-Jones (Is-gadeirydd)
Keith Thomas(Trysorydd)
Blod Jones (Ysgrifennydd Aelodaeth)
Catrin Mears (Cyhoeddusrwydd)
Martin Rhisiart
Wyn Mears
Dechreuodd cwmni gwyliau ar-lein Gareth Mahoney a Llion Pugh - Y Gorau o Gymru - fasnachu ym mis Mawrth 2010 ac o fewn y naw mis cyntaf, llwyddodd y cwmni i gynhyrchu trosiant o £198,000. Ddoe (25 Tachwedd 2010) bu’r cwmni hefyd yn dathlu ar ôl ennill Gwobr Busnes Newydd 2010 Cwlwm Busnes Caerdydd a’r Cylch a noddir gan Venture Wales.
David Boobier, Llion Pughe,
Gareth Mahoney a Phil Cooper
Nod y gystadleuaeth yw cydnabod a cheisio ysgogi busnesau newydd yn ardal Caerdydd a’r Cylch. Eleni, rhoddwyd gwobr o £1,000 i’r cwmni buddugol sydd yn hyrwyddo a chymryd archebion ar ran bythynnod gwyliau pedair a phum seren ar hyd a lled Cymru, a hyn oll ar lein.
Yr hyn sy’n unigryw am Y Gorau o Gymru o fewn y diwydiant bythynnod gwyliau, yw’r ffaith ei fod yn cynnig gwasanaeth dwyieithog i gwsmeriaid a pherchnogion dros y ffôn a thrwy e-bost. Diolch i wobr Cwlwm Busnes, bydd Gareth Mahoney a Llion Pugh hefyd yn medru cyfieithu’r wefan a sefydlu Y Gorau o Gymru fel y dewis cyntaf i siaradwyr Cymraeg sy’n chwilio am wyliau mewn bwthyn hunanarlwyo moethus yng Nghymru. Bydd yr arian hefyd yn galluogi’r cwmni i ddenu mwy fyth o siaradwyr Cymraeg sydd yn gosod bythynnod i restru eu llety ar ein gwefan.
Er mai ond dau aelod o staff sydd gan y cwmni ar hyn o bryd, y nod yn y pen draw yw sefydlu Y Gorau o Gymru fel busnes hyfyw sy’n gwneud elw digonol i gynnal cyflog dau gyfarwyddwr yn ogystal â chreu swyddi newydd i eraill.
Yn ôl Gareth Mahoney, mae’r cwmni wedi bod yn perfformio’n well na’r disgwyl: “Ein targed ar gyfer ein blwyddyn gyntaf oedd cael 50 o fythynnod ar y wefan. Erbyn mis Medi, ar ôl llai na saith mis o fasnachu mae gennym 96, a hyd yn oed mwy ar y gweill. Rydyn ni hefyd yn llwyddo i gwrdd â disgwyliadau ein perchnogion ar hyd a lled Cymru, yn ogystal â’n cwsmeriaid ac felly’n sicrhau enw ac ewyllys da tuag at y cwmni.”
Ymhen pum mlynedd, y gobaith yw y bydd lleiafswm o 300 o fythynnod ar y wefan a byddant yn derbyn archebion am o leiaf 70% o’r flwyddyn i bob bwthyn ar gyfartaledd.
“Rydym yn falch iawn i allu cefnogi Y Gorau o Gymru - cwmni sydd ag amcan clir ac sydd yn dangos potensial mawr yn gynnar iawn yn y busnes,” meddai David Boobier, Cadeirydd Cwlwm Busnes Caerdydd a’r Cylch.
“Dyma a gyfrannodd at ein penderfyniad i’w wobrwyo â’r anrhydedd arbennig yma, a gefnogwyd gan Venture Wales. Rwy’n edrych ymlaen at weld Y Gorau o Gymru’n datblygu ymhellach ac yn dymuno pob llwyddiant i Gareth gyda’i fenter.”
Daw Ifan Evans o Dregaron yng Ngheredigion. Fe’i addysgwyd yng Ngholeg Llanymddyfri a Choleg yr Iesu Rhydychen cyn dod yn ôl i Geredigion i astudio hanes darlledu yng Nghymru yn Aberystwyth.
Bu'n ddarlithydd prifysgol yn Adran Hanes a Hanes Cymru Prifysgol Cymru Aberystwyth, cyn cael ei benodi’n Rheolwr Gyfarwyddwr Rhiannon Cyf. yn 1998. Enillodd y cwmni nifer o wobrau rhanbarthol a chenedlaethol yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, yn arbennig am ei defnydd blaengar o'r Gymraeg, ac am fuddsoddiad sylweddol i greu canolfan ymwelwyr cyfoes ac amlbwrpas yn Nhregaron.
Bu hefyd yn gyfarwyddwr ar gwmnïau eraill amrywiol, yn cynnwys rhai eiddo, amaeth, hamdden, gweithgynhyrchu, twristiaeth, celfyddydol a datblygu cymunedol, a bu'n Aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg rhwng 2003 a 2007. Cafodd ei benodi yn Gyfarwyddwr Sector Preifat a Busnes BYIG ym mis Ebrill 2007, ac ef sy’n gyfrifol am gynnig arweiniad strategol yn y maes o hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn y Sector Preifat.Dyma'r maes y bydd yn ei drafod yn ein cyfarfod.
Cawn gyfle i gyflwyno gwobr Menter Cymru (Venture Wales) i enillydd cystadleuaeth Cwlwm Busnes Caerdydd a'r Cylch, ac i glywed am lwyddiant y busnes a'i gynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Bydd busnesau bychain yn Ne Ddwyrain Cymru yn cael eu gwobrwyo am eu twf cynaliadwy a’u defnydd o’r iaith Gymraeg, diolch i wobr busnes newydd.
Mae Cwlwm Busnes Caerdydd a’r Cylch wedi partneru gyda Menter Cymru (Venture Wales) i greu’r wobr. Bydd yr enillydd yn derbyn tlws a gwobr o £1000.
Mae’r wobr ar agor i unrhyw fusnes maint bychan neu ganolig a sefydlwyd yn ystod y tair blynedd diwethaf. Mae’n rhaid bod y busnes wedi llwyddo eisoes yn ei faes dewisiedig, ac wedi profi bod ganddo’r potensial i dyfu mewn modd cynaliadwy ac wedi defnyddio’r iaith Gymraeg wrth iddo ddatblygu.
Dywedodd Wyn Mears, Cadeirydd y Cwlwm: “Nod y wobr yw dathlu llwyddiant busnesau bychain. Rydym yn gobeithio darganfod enghreifftiau gwych o sut gall yr iaith Gymraeg fod yn gaffaeliad i dwf a llwyddiant, gan ddefnyddio’r gystadleuaeth fel modd i annog busnesau eraill i ddefnyddio’r iaith yn Ne Dwdyrain Cymru”.
Ychwanegodd: “Rydym yn dra diolchgar i Menter Cymru am eu haelioni wrth noddi’r gystadleuaeth eleni”.
![]()
Manylion y gystadleuaeth
Disgwylir i’r ymgeiswyr gwblhau ffurflen gais er mwyn adlewyrchu eu strwythur a’u hamcanion, gan ddangos sut y llwyddwyd i sefydlu’r busnes, a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Medi 30ain 2010. Gwahoddir rhestr fer ogwmnïau i ymddangos gerbron panel o feirniaid, a cyhoeddir yr enillydd mewn cyfarfod arbennig o’r Cwlwm Busnes ar ddechrau mis Rhagfyr 2010.

Wyn Mears, Cadeirydd Cwlwm Busnes Caerdydd a'r Cylch gyda'r siaradwr gwadd Dr Barry Morgan.
Byddai canlyniad cadarnhaol mewn refferendwm yn beth da i’r byd busnes meddai Cadeirydd Cymru Yfory, Archesgob Cymru Dr Barry Morgan.
Roedd Dr Morgan yn siarad yng Nghinio Blynyddol Cwlwm Busnes Caerdydd a'r Cylch ar nos Iau 18 Mawrth yng Nghwesty'r Hilton Caerdydd o flaen 80 o Gymry Cymraeg y brifddinas.
Dywedodd Dr Morgan, fod Cymru Yfory – corff aml-bleidiol, traws-sector, aml-ffydd –yn credu bod symud ymlaen i gael pwerau deddfu go-iawn yn holl-bwysig i’r gymuned fusnes ac i ddatblygiad economaidd Cymru.
"Rydym ni o’r farn yma am bedwar rheswm,” dywedodd.
“I ddechrau, mae modd dylanwadu lawer yn fwy effeithiol ar benderfyniadau llywodraeth pan fydd pawb yn glir ynghylch pwy sy’n penderfynu beth. Mae busnes bob amser, yn hollol briodol, yn pwysleisio’r angen i fod yn effeithlon ac i osgoi gwastraff. Wn i ddim sut y mae cyfiawnhau y gwastraff ar egni, amser ac adnoddau sy ynghlwm wrth y system bresennol.
"Yn ail, mae angen i’r ddadl ynghylch penderfyniadau ar y math o ddatblygu economaidd rydyn ni am ei weld yng Nghymru gael ei chynnal yng Nghymru, mewn awyrgylch democrataidd ac agored. Wrth reswm bydd y drafodaeth ynghylch materion megis polisi ariannol, lefelau a mathau o drethiant ac ati, yn digwydd ar y lefel Brydeinig, ond bydd y ffin rhwng pwerau’r ddwy lefel yn gliriach o lawer.
“Yn drydydd, mae mawr angen cryfhau’r broses o ddatblygu polisi economaidd yng Nghymru. Byddai sefydlu patrwm seneddol o lywodraethu yng Nghymru yn hwb mawr i’r broses yma hefyd.
“Tra pery sefyllfa lle mae’r Cynulliad yn gorfod gofyn caniatâd San Steffan bob tro mae e eisiau deddfu, fe fydd Cymru yn israddol i’r Alban a Gogledd Iwerddon, ac mae hyn yn annerbyniol. O ran y cwestiwn Barnett er engrhaifft, mae’n sicr bod Cymru yn cael cam go ddifrifol o dan y trefniadau presennol, a ddylai fod wedi cael eu diwygio ers blynyddoedd.”
Gŵr gwadd: Ron Jones, Cadeirydd Gweithredol Tinopolis
Noddir gan: Brewin Dolphin a Dolmans
Mae Cinio Blynyddol Cwlwm Busnes Caerdydd ar drothwy ei phenblwydd yn 20 oed ac wedi datblygu'n un o weithgareddau pwysicaf Cymry Cymraeg ein Prif Ddinas.
Eleni cynhelir ein Cinio Blynyddol yng Ngwesty'r Hilton Caerdydd ar nos Iau Mawrth 22ain 2012. Rydym yn hynod o flach i groesawu ein gŵr gwadd, Mr Ron Jones, sydd yn ŵr busnes amlwg. Y fe oedd yn gyfrifol am ffurfio cwmni teledu Tinopolis ym 1990 ac wedi ei harwain ers hynny. Mae'n gadeirydd panel ymgynghorol Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiannau creadigol ac yn gymrawd anrhydeddus o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac o Brifysgol Abertawe.
Mae'n bosib archebu byrddau o 10 neu o 8, hanner bwrdd o 5 neu docynnau unigol am £45 y pen. Mae’r prîs yn cynnwys gwin ar y bwrdd i ddechrau ac fe fydd yn bosib archebu diodydd ychwanegol gan y gwesty.
Bydd y noson yn dechrau â derbyniad rhwng 7.00pm a 7.30pm, dan nawdd cwmni Brewin Dolphin sydd yn un o brif gwmniau rheoli buddsoddiadau’r DU ar y cyd gyda Dolmans un o brif gwmniau cyfreithwyr Caerdydd ac rydym yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth.
Fel y gwyddoch mae ‘na alw mawr am docynnau i’n Cinio bob blwyddyn. Felly peidiwch ag oedi rhag archebu ar gyfer eich cwmni (neu eich hunan) a’ch gwesteion. mawrth 8fed 2012 yw’r dyddiad cau
Edrychwn ymlaen at eich cwmni ar Fawrth 22ain.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Geraint neu Dafydd Hampson-Jones
Ffôn: 029 20340100
e:bost: geraint.hampson-jones@brewin.co.uk
Nos Iau, 24 Tachwedd 2011
Gwesty Holiday Inn, Stryd y Castell, Caerdydd
6.00pm Lluniaeth ysgafn
6.30pm Siaradwr Gwadd: Gareth Rees Jones
Mae Gareth Rees Jones yn Gyfarwyddwr Marchnata - Manwerthu, Leekes a chyn Gyfarwyddwr Marchnata, Celtic Manor.
Yn 2010 yn Celtic Manor cafwyd ymweliad cyntaf Cwpan Ryder â Chymru. Dyma’r tro cyntaf iddo gael ei gynnal ar gwrs adeiladwyd yn arbennig ar ei gyfer. Roedd yn ddiweddglo gwefreiddiol a llawn cyffro ar ôl i’r twrnamaint gael ei ymestyn i bedwar diwrnod a Chwpan Ryder yn dod yn ôl i Ewrop.
Bydd y cyflwyniad o ddiddordeb mawr i’r golffwyr yn ein plith a’r rhai sydd ddim yn chwarae ac fe fydd Gareth yn son am ei waith fel Cyfarwyddwr Marchnata y Celtic Manor ac yn arbennig am y Cwpan Ryder. Mae ef hefyd yn mynd i son ychydig am ei waith gyda Leekes fel Cyfarwyddwr Marchnata – Manwerthu.
Nos Iau, 29 Medi 2011
Gwesty Holiday Inn, Stryd y Castell, Caerdydd
6.00pm Lluniaeth ysgafn
6.30pm Siaradwr gwadd:
Nos Iau, 16 Mehefin 2011
Gwesty Holiday Inn, Stryd y Castell, Caerdydd
6.00pm Lluniaeth ysgafn
6.30pm Trafodaeth Panel - Pa gefnogaeth sydd ei angen ar fusnesau?
Cadeirydd: Garry Owen, BBC
Panelwyr: Sioned Rees, Pennaeth Entrepreneuriaeth a Gwybodaeth Busnes, Llywodraeth Cymru
Alun Jones, Prif Weithredwr, Menter a Busnes
Mae yna ystod o ffactorau sy’n cyfrannu at lwyddiant busnesau – syniadau blaengar, cynnyrch a gwasanaethau o safon, ymwybyddiaeth o newidiadau yn y farchnad, rheolaeth ariannol effeithiol, arweinyddiaeth ayb. O gofio hyn oll, bydd y drafodaeth panel yn gofyn, ‘Pa gefnogaeth sydd ei angen ar fusnesau?’
Beth yw rôl y llywodraeth wrth gefnogi busnesau? Sut mae creu amgylchedd ffafriol er mwyn i fusnesau ffynnu? Ar wahan i bolisiau llywodraeth, mae cwmniau yn derbyn mathau gwahanol o gefnogaeth o gwmniau eraill.
Pa weithgareddau sydd wedi gweithio’n dda yng Nghymru? Beth sydd angen ei wella?
Nos Iau, 20 Ionawr 2011
Gwesty Holiday Inn, Stryd y Castell, Caerdydd
6.00pm Lluniaeth ysgafn
6.30pm Siaradwraig wadd: Sian Lloyd Jones, Prifweithredydd, Cyllid Cymru
Gallwn ddisgwyl anerchiad diddorol iawn gan Sian Lloyd Jones.
Am ragor o wybodaeth am weithgareddau Cwlwm Busnes Caerdydd a'r Cylch,
cysylltwch â Blod Jones, (Ysgrifennydd Cyfarfodydd - Ffôn 0797 790 5523.
e.bost: Blod@Blodjonespr.co.uk
Gŵr gwadd: Doctor Eurfyl ap Gwilym
Eleni cynhelir Cinio Blynyddol Cwlwm Busnes Caerdydd yng Ngwesty’r Hilton Caerdydd ar nos Iau Mawrth 10fed 2011, am 6.45pm ar gyfer 7.30pm. Rydym yn hynod o falch i groesawu ein gŵr gwadd y Doctor Eurfyl ap Gwilym. Mae’n ŵr busnes amlwg, yn ymgynghorydd arbenigol ar faterion economaidd, ac ymhlith ei swyddogaethau diweddar bu’n ddirprwy Gadeirydd Cymdeithas Adeiladu’r Principality. Bydd ein gŵr gwadd siwr o fod wedi gwneud ei waith cartref cyn dod rhag ofn bydd Jeremy Paxman yn bresennol!
Mae'n bosib archebu byrddau o 10 neu o 8, hanner bwrdd o 5 neu docynnau unigol am £45 y pen. Mae’r prîs yn cynnwys gwin ar y bwrdd i ddechrau ac fe fydd yn bosib archebu diodydd ychwanegol gan y gwesty.
Bydd y noson yn dechrau â derbyniad rhwng 6.45pm a 7.30pm, dan nawdd cwmni Brewin Dolphin sydd yn un o brif gwmniau rheoli buddsoddiadau’r DU ac rydym yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth.
Fel y gwyddoch mae ‘na alw mawr am docynnau i’n Cinio bob blwyddyn. Felly peidiwch ag oedi rhag archebu ar gyfer eich cwmni (neu eich hunan) a’ch gwesteion. Chwefror 21ain 2011 yw’r dyddiad cau
Edrychwn ymlaen at eich cwmni ar Fawrth 10fed. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Geraint Hampson-Jones Ffôn: 0845 213 1220 Ffacs:0845 213 1221 e:bost: geraint.hampson-jones@brewin.co.uk
Bydd cyfarfod cyntaf y Cwlwm yn 2010 yn mynd i'r afael ag un o'r blaenoriaethau mawr i bob cwmni blaengar, arloesedd. Yn ein tywys trwy'r byd arloesedd bydd Dafydd Davies, Prif
Weithredwr BIC Innovation, sy'n darparu gwasanaethau arloesedd a datblygu cynnyrch newydd i ystod eang o sectorau a chwmniau.
Bydd Dafydd yn cyffwrdd ag agweddau pwysig, megis - Beth yw arloesedd? Taith o gwmpas arloesedd, yn cynnwys pobl, technoleg, diwylliant, cynnyrch a phrosesau - Datblygu cynnyrch strategol - Uchafu gwerth brand - Astudiaethau achos ac enghreifftiau - Cymorth ar gael i hybu arloesedd ym musnesau Cymreig
Mae Dafydd yn ymarferwr ym maes gwerthu a marchnata, datblygu cynnyrch newydd a strategaeth fusnes, ac mae’n rheolwr prosiectau profiadol.
Ar hyn o bryd, mae’n ymwneud ag amrediad amrywiol o brosiectau ymelwa ar arloesedd a thechnoleg ar gyfer busnes a’r byd academaidd.
Mae’n dal i fod mor frwd ag erioed dros wir botensial ennill mantais gystadleuol o brosesau arloesi effeithiol y mae’r farchnad yn eu harwain, sef prosesau sy’n cwmpasu creadigedd, ymchwil farchnata, datblygu cynnyrch newydd, datblygu brand a statws, a diogelu eiddo deallusol ac ymelwa arno’n fasnachol. Mae Dafydd hefyd yn mynd ati i gyfrannu at bolisi datblygu arloesedd yng Nghymru, gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae’n cadeirio Partneriaeth Rhwydwaith Arloesedd Gogledd Cymru ac mae’n gydymaith Ysgol Fusnes Manceinion.
Mae Dafydd wedi ennill Gwobr 20 Cynnyrch Newydd Uchaf Archfarchnadoedd ddwywaith gyda Nestlé, ac mae’n cynnig 28 mlynedd o brofiad o ddatblygu marchnata rhyngwladol ar ran cleientiaid fel Delmonte, BP, AA, Amersham International, BMR NeuroTech, Racal (Thales bellach), Whitbread, Banc Barclays, y Bathdy Brenhinol, Bissell, Stena, Unisys, McAlpine, Bluestone ac RJ Reynolds.